
Arolwg anghenion pobol ifanc Drefach yn ystod ac wedi cyfnod Cofid-19.
Arolwg Anghenion Pob Ifanc Drefach yn ystod ac wedi cyfnod Cofid-19.
“Mae angen i ni ganolbwyntio ar adeiladu pobl, bydd Duw yn adeiladu'r eglwys”
Arolwg Medi 29ain 2021:
Rhennir yr atebion dan is-deitlau mwyaf perthnasol.
Personol
Sut mae cadw iechyd a lles pan dan warchae pandemig.
Ble ydw i nawr a ble ydw i’n mynd?
Adnabod cryfderau a gwendidau ein gilydd.
Adnabod y dulliau o adlewyrchu.
Sut mae cynilo a chynllunio cyllideb.
Sut mae rheoli dyled.
Cymryd rheolaeth o incwm.
Gofalu am iechyd meddwl.
Sut mae goresgyn rhwystrau.
Datblygu sgiliau a ellir eu trosglwyddo.
Datblygu sgiliau bywyd ar gyfer gwaith.
Deall yr holl drafodaeth ynhylch ‘gender’, rhyw a theimladau at eraill o’r un rhyw.
Buddion o fod yn aml-ieithog a dysgu iaith arall.
Delio gyda methiant.
Cymorth yn ystod arholiadau.
Dulliau o adolygu, sgiliau astudio.
Yr Eglwys a’r byd
Agweddau ynghylch ymfudo ac ymfydwyr.
Sut i fod yn ddinesydd llwyddiannus.
Gwirfoddoli lleol a’r byd eang.
Cyfle cyfartal i’r anabl a merched mewn chwaraeon.
Helpu eraill
Dysgu eraill i fyw bywyd llawn.
Hyfforddi eraill.
Mentora eraill drwy anhawsterau.
Helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.
Angen Citizen’s Advice yn y pentref.
Cyfrifadurol
Sut mae bod yn ddiogel ar-lein.
Sut mae osgoi gwe-rwydo ( phishing ).
Sut mae osgoi twyll a sgamiau.
Sut mae dweud na i dwyllwyr rhyw.
Sut mae datblygu llwyfan proffessiynol ar-lein.
Anabod sut mae cysylltu ag eraill yn ddiogel, beth yw’r risgiau a sut mae ei lleihau.
Datblygu cyfrif preifât.
Byd Gwaith
Ysgrifennu CV.
Paratoi am gyfweliad.
Profiad gwaith rhithiol.
Beth yw’r sgiliau sydd angen yn y gweithle.
Datbygu hyder gydag arian.
Gofalu am ein cyllid personol.
Coleg, Prifysgol neu prentisiaeth.
Sut mae cael cymorth i ddechrau busnes.
Risgiau
Gamblo.
Camddefnyddio alcohol a chyffuriau.
Cerdded adref ar fy mhen fy hun yn ddiogel
Derbyn neges anffafriol ar-lein.
Sut mae reportio trais.
Sut mae osgoi cael fy nrhreisio.
Sut mae delio â bwlian yn y dosbarth neu ar-lein.
Bwriad ar gyfer Hebron yn ôl yr arolwg
Mae arolwg o ganlyniad i’r pandemig wedi tanlinellu a blaenoriaethu’r diffygion yn ein cymdeithas a dyma’r cynlluniau ymatebol ar gyfer Hebron.
Adnoddau
Hebron fel hub a rhwydwaith cymdeithasol i bobol ifanc gwrdd a rhannu profiadau.
Cyfleuster ar gyfer galwadau ffôn i’r aelodau sy’n dioddef o iselder, straen a thyndra.
Man cyfarfod â heddlu ac arbennigwyr yn y meysydd sy’n heriol i helpu â’r risgiau.
Lle i ‘Live streaming’ digwyddiadau o’r ganolfan. Gigs ac ati.
Cyfleuster gwasanaeth tele-gyfathrebu ar gyfer siopa, addoli, sgyrsio a chwnsela dros y ffôn i rhai heb modd gyfrifadurol.
Ymarferydd Nyrsio â syrgeri arbennig i’r ifanc yn y ganolfan.
Datblygu’r person.
Cwnsela a help i’r rhai sy’n teimlo’n unig, an ansicr ynghylch rhyw a theimladau at eraill.
Cymorth ar gyfer anhwsterau bwyta.
Dosbarthiadau arbennig ar gyfer CV’s, bod yn ddiogel ar-lein, rheoli arian, cymorth academaidd a delio â methiant.
One stop siop ar gyfer yr ifanc sy’n anabl ac anghenion arbennig eraill..
Dysgu arwyddo a chymorth ymarferol i’r byddar, rhannol fydar i’r dall a’r rannol ddall.
Meithrin a datblygu sgiliau cyllid i’r rhai sy’n mynd i’r coleg, dechrau gwaith neu priodi ac ati.
Datblygu system ‘buddi’ i’r rhai unig ac heb deulu neu lle mae ysgariad a thrais yn y cartref.
Datblygu agweddau holisdig teg a chynhwysol ar gyfer mewnfudwyr, hinsawdd, hîl a rhyw.
Angen gwella’r gallu i gael gwaith.