Yr Eglwys Gyfoes.

Mae’n ffordd o fyw wedi troi wyneb i waered. Mae’r oes yn newid yn gyflym a dyw’r hen arferion ddim mor berthnasol bellach. Mae ffyrdd newydd yn gwthio drwyddo.


Nawr te’, Dyma beth rwyf am ddweud wrth eich arwain drwy’r rhesymeg; mae cyfathrebu a phobl ifanc wedi newid tu hwnt i bob synwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ceffyl a chart yr eglwys draddodiad wedi gwneud lle i Lamborghini technoleg fodern a’r llwyfannau cymdeithasol. Ond fel y ddoe, mae lle pwysig i’r ddau

Mae gennym y cyfle bellach i ystyried beth sy’n gweithio a beth allwn fabwysiadu ar gyfer ei defnyddio mewn gwead o’r hen a’r newydd. Mae’r ‘hen ffordd Gymreig o fyw’ mor bwysig ag y bu erioed ond efallai mai’r modd mae’r egwyddorion a’r arferion hyn yn cael ei cyflwyno sydd wedi newid.

Blynyddoedd yn ôl roedd y ceffyl a’r cart yn bwysig i deithio o un man i’r llall, Wedyn daeth y car a diflannodd y ceffyl a’r cart. Teithio yw’r bwriad o hyd; fe ddisodlwyd yr hen ffordd gan gerbyd llawer mwy addas i’r cyfnod newydd.

Ydyw’r enghraifft yma’n yn eich taro’n fel rhywbeth sy’n amlwg i nifer fawr o bethau heddiw? Mae cyfnod Cofid wedi achosi fwy o newidiadau ym myd cyfathrebu na’r chwildro diwydiannol. Rydym i gyd wedi ymateb iddo mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae rhan fwyaf o unigolion, teuluoedd, mudiadau, asiantaethau gwasanaethau a’r eglwys hefyd wedi’u heffeithio cymaint nes bod y newidiadau ddim yn gwneud patrymau rhagor os nad ydynt hyd yn oed yn addas mwyach..