
Newyddion.
.
Mae adnabod Iesu yn yn eich cyflwyno fywyd yn ei holl gyflawnder.
Gan Delyth Edwards I Arweinydd y Porth l Awst 25ain 2021 l Newyddion.
Manteision o fod yn aelod o’r Porth.
Breuddwydiwch.
Mae’r Porth yn le i aelodau gwrdd i ddarllen fwy am y ffydd Gristnogol. Mae’n le i freuddwydio am fyd gwell, byd sy’n llawn o gariad a chymwynas. Byd heb drais , heb ymladd a heb ansicrwydd a chenfigen.
Adeiladwch.
Dewch i ni gael adeiladu ein ffydd ar seiliau di-sigl. Mae gennym stôr o wybodaeth yn y Porth ac fe fyddwn yn adeiladu ato yn raddol. Rhywle i ddarllen neu ddilyn cwrs arweinydd neu hyfforddiant galwedigaethol.
Gweithredwch.
Rydym yn dda am siarad ond yn gyndyn i weithredu. Mae hyn oherwydd ein diffyg hyder a ddim am gael ein gwrthod. Rydym i gyd fel aelodau yn ddisgyblion i Iesu ond mae bod yn genhadon llawer anoddach.
Annogwch eraill..
Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddylanwadu ar ein ffrindiau neu grŵp cydradd yw dangos esiampl dda. Wrth fyw ein bywyd i wasanaethu eraill a gwneud gwahaniaeth yn adlewyrchu ein ffydd i bawb.

Mae gennym aelodau tu hwnt i ffiniau'r pentref.

O fod yn aelodau o Gylch mae'r sgwrs o hyd am Iesu.
Opsiwn i ymaelodi a’r Sedd Fawr
Beth yw’r Sedd Fawr?
Wel, dyma adran hyfforddiant Y Porth. Gellir cael mynediad i ddeunydd darllen yn unig, cyrsiau i arweinwyr yr eglwys neu hyd yn oed hyfforddiant galwedigaethol.
Gellir hefyd cael deunydd ar gyfer eich cyfarfodydd Cylch yma a llawer mwy wrth i ni ychwanegi at y cynnwys drwy gydweithrediad Coleg yr Annibynwyr a phartneriaid eraill.
Rydym wrth ein bodd yn eich gwahodd i ymuno â'n cymuned fywiog sy'n ymroddedig i feithrin twf personol, datblygiad ysbrydol, a llwyddiant academaidd ymhlith unigolion ifanc. Mae ein platfform wedi'i gynllunio i'ch grymuso gyda'r offer, yr adnoddau a'r arweiniad sydd eu hangen i gychwyn ar daith drawsnewidiol tuag at wireddu'ch potensial llawn. Wrth galon ardal ein haelodau mae ein llyfryn cynhwysfawr ar Hyfforddi Ysbrydol, adnodd gwerthfawr a luniwyd yn benodol ar gyfer ieuenctid.
Be’ sy’ ‘mlaen?
“Mae’r gystadleuaeth i gyfansoddi a recordio can Cristnogol yn torri tir newydd.
Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed y gan fuddugol.”
— Y Parchedig Gwyn E Jones.
Ymgeisiwch yma.
“Beth bynnag ydyw, gall y ffordd rydych chi'n dweud eich stori wneud byd o wahaniaeth.”
— Beth yw eich tystiolaeth chi?
Danfonwch eich tystiolaeth yma