
“Dwy ddim am fod rhun peth a phawb arall, dwy am fod yn well a gwneud gwahaniaeth”.
Ar fod yn gŵl.
Bod yn wahanol.
Bod yn wahanol.
Rhaid i sefydliadau neu gwmnïau fod yn 'cŵl' a chyflwyno neges am sut y bydd eu cynnyrch neu’u gwasanaeth yn cynorthwyo pobl ifanc fod yn well neu'n wahanol. Bydd rhaid iddynt ganolbwyntio ar yr hyn sy'n unigryw am eu brand oherwydd nid yw’r ddau genhedlaeth yma eisiau bod yr un fath â phawb arall. Maent yn awyddus i wneud datganiad gyda phopeth, o pa ddillad maent yn gwisgo, pa gerddoriaeth maent yn gwrando, ac i ba fwyd maent yn ei fwyta.
Mae datblygu deialog naturiol a diffuant yn apelio mwy ac yn denu diddordeb ond fydd ceisio’n rhy galed yn cael sylw adweithiol. Nid ydynt yn ymddiried mewn adolygiadau neu ‘barn arbenigol’, mae’n llawer gwell ganddynt farn grŵp o’u cyfoedion o lawer. Felly, mae angen i ni weithio gyda dylanwadwyr y grŵp yma drwy eiriol y brand er mwyn cael sylfaen dda i ymledu’r neges.
Os yw’r gwasanaeth neu’r cynnyrch yn cael ei 'garu' neu yn denu ymateb cadarnhaol yna bydd y bobl ifanc yn trydar hynny drwy'r dydd ac yn datblygu’n eiriolwyr teyrngar i’r brand.
Mae cenedlaethau x ac z am lawer mwy o sicrwydd bod sefydliadau yn gofalu am eu cwsmeriaid ac yn awyddus i wneud y byd yn well. Os yw sefydliadau yn cyflwyno rhywbeth o werth a cheisio gwneud hynny mewn modd arloesol a gwreiddiol yna byddant yn barod i rannu hyn gyda'u rhwydwaith. Os ydynt yn clywed am ein sefydliad drwy ei rhannu, boed hynny trwy gyfryngau cymdeithasol neu fel arall, yna maent yn llawer mwy tebygol i ymchwilio ymhellach. Os nad yw’r wybodaeth yn cael cymeradwyaeth, yna mae'n debyg na fydd ein hymdrechion yn llwyddo i ymestyn ymhellach.
Er mwyn cael mynediad i bobl ifanc sydd â diddordeb mae angen i ni ymgysylltu trwy adeiladu perthynas dda a meithrin diddordeb yn gyntaf er mwyn iddynt ddechrau uniaethu eu hunain gyda ni. Maent yn aml dasgwyr a bydd rhaid i wasanaethau ffitio’i fewn i’w bywydau nhw.
Syth at y pwynt.
Bydd rhaid gollwng cyflwyniadau ‘ddiflas' a geir yn aml mewn dulliau cyfathrebu a mynd yn syth at y pwynt, ac yn gwneud ein hachos tra bod yn ddiddorol, yn ddoniol, yn gymwynasgar ac yn gyflym a cheisio llwyddo wrth wneud hyn o’r dechrau. Fel arall, neu hwyrach yn y berthynas bydd ein ymdrechion llawer mwy anodd ond os llwyddwn eu hennill drosodd, mae pobl ifanc yn genhedlaeth ffyddlon a theyrngar.
Nid ydynt yn ymddiried mewn adolygiadau neu ‘barn arbenigol’, mae’n llawer gwell ganddynt farn grŵp o’u cyfoedion o lawer. Felly, mae angen i ni weithio gyda dylanwadwyr drwy eiriol y brand er mwyn cael sylfaen dda i ymledi’r neges.
Felly mae angen i ni fod yn bresennol yn yr holl gyfryngau sy'n berthnasol ac yn ddefnyddiol ar eu cyfer . Mae'n rhaid i ni gymryd rhan, a thrafod yn ddwys gyda phobl ifanc ar nifer o gyfryngau cymdeithasol er mwyn iddynt gael hyder ynom a chymryd rhan.
Gyda llaw, ‘ni’ gynlluniodd y dechnoleg ac mae pobl ifanc yn ei ddefnyddio, i’r eithaf.
Awdur: Dr Wayne Griffiths MBE