
Heb gyfathrebu does dim perthynas. Heb barch does dim cariad. Heb ymddiriedaeth does dim rheswm i barhau.
Creu Perthynas.
Mae creu perthynas yn hanfodol wrth geisio dylanwadu pobl ifanc a thyfu’n bartneriaeth agos. Mae’r modd o greu’r agosatrwydd yn gorfod bod yn onest a thryloyw os i’r berthynas am gydio a pharhau. Rhaid gwneud ystyr a tharo’r un donfedd.
Bydd ein pobl ifanc heddiw a dros y degawd nesaf yn cynrychioli’r canran mwyaf o defnyddiwr technoleg y cyfnod a’r ffynhonnell fwyaf sydd angen i ni geisio cysylltu â nhw. Bydd rhaid i unrhyw sefydliad sy'n dymuno ymgysylltu osod eu hunain mewn modd i ddenu a harneisio eu potensial a'u grymuso i wneud penderfyniadau ystyrlon.
Creu Perthynas
Mae'r milflwyddwyr yn farchnad enfawr ac yn cyfateb i 30% o boblogaeth Cymru ac maent yn cysylltu gyda’u gilydd rhwng deugain a ddau gant o weithiau’r dydd..
Mae cenledlaeth y a z yn defnyddio technoleg a chynnwys llawer mwy aml nag unrhyw genhedlaeth arall, mae ganddynt fynediad i ystod ehangach o wybodaeth ac maent yn arbennig o sensitif i wybodaeth a dderbyniant. Byddant yn archwilio sefydliadau eraill sydd â'r un angen i ymgysylltu ac yn dod o hyd yn gyflym i adnabod y rhai y mae'n well ganddynt wneud perthynas â nhw, sef y sefydliadau hynny sydd am y ddwy ochr o’r berthynas ennill.
Mae’n rhaid i sefydliadau gynning gwasanaeth neu gynyrch sy’n gwneud ystyr oherwydd mae pobl ifanc yn gofalu llawer am beth y maent yn ei wneud a sut mae'n ei wneud. Os ydynt yn gwneud rhodd, y maent am wybod yn union ble y mae'n mynd. Os ydynt yn rhannu gwybodaeth, y maent am ei wneud oherwydd ei fod yn cyfrannu at helpu pobl. Mae’n rhaid bod yn real ac yn dryloyw gyda phobl ifanc. Maent am weld y gwirionedd fel y gallant deimlo bod cysylltiad ystyrlon wedi’i wneud; fel bod y neges maent hwythau yn ei anfon neu rhannu ag eraill yn un eu bod yn ei berchen ac yn ymfalchïo ynddo.
Mae angen gwneud pob cysylltiad yn un personol gan mai pobl ifanc yw canol ei bydysawd ar-lein. Mewn byd o gyfryngau cymdeithasol y mwy o fudiadau sy’n gwneud y berthynas â’r brand deimlo'n personol i bob defnyddiwr, y mwyaf o’r brandiau hynny bydd yn llwyddo ac yn sicrhau bydd eu neges yn lledaenu oddi wrth y rhai y maent yn eu targedu.
Apelio i feddylfryd pobl ifanc.
Bydd denu pobl ifanc yn llawer mwy i'w wneud ag agweddau a’r diwylliant neu brofiad a rennir. Mae hyn llai i'w wneud â phortreadu eu hieuenctid a gwella eu profiad o gynnyrch neu frand.
Er mwyn cysylltu mewn unrhyw ffordd ystyrlon bydd angen i’r cynnwys i fod yn ddiddorol. Bydd bobl ifanc yn ymateb o gael eu boddhau yn gyflym ac felly mae angen i’r cynnwys apelio i'r anghenion hyn ac i wneud hynny drwy ddulliau sydyn, byr a chryno sy'n dal diddordeb ac yn gofiadwy. Mae cenedlaethau yma yn cysylltu am wybodaeth yn gyson a chadw mewn cyswllt, yn rhannu gwybodaeth ag unigolion eraill, yn feistri ar aml-weithio ac yn croesawu newid.
Beth sydd wedi gweithio yn y gorffennol, nid yw o reidrwydd yn mynd i weithio yn y presennol neu'r dyfodol. Nid yw pobl ifanc yn cysylltu â sefydliadau neu frandiau yn yr un ffyrdd ag oedd eu rhieni a'u neiniau a theidiau. Ni fydd ymgyrchoedd gwych ar draws sianeli traddodiadol fel print a theledu yn cyrraedd y bobl ifanc modern. I gael effaith barhaol, rhaid i sefydliadau dreiddio amgylchedd cymdeithasol a diwylliannol y nobl ifanc. Er mwyn cyrraedd y bobl ifanc rhaid bod yn arloesol, yn bryfoclyd a’r modd i’w wneud yn ‘viral’.
Y ffordd fwyaf ystyrlon er mwyn cysylltu gyda'r genhedlaeth hon bydd eu cofleidio mewn deialog. Mae gwrando yn ffordd dda o ddechrau wrth i'r cenedlaethau yma hoffi cael eu clywed, y mwyaf y gwrandawn arnynt y mwyaf y maent yn gofalu am ein bwriad. Mae bod yn onest ac yn dryloyw ynghylch ein hanghenion yn hanfodol o'r cychwyn cyntaf a bydd unrhyw amheuon ynghylch y sefydliad yn cael ei ddarganfod yn gyflym iawn. Bydd angen bod yn agored felly ac i ymddiheuro os oes angen.
Felly byddai angen i ni gael pobl ifanc i gymryd rhan yn ein sefydliadau trwy gyfryngau cymdeithasol, a gwaith allgymorth. Bydd y cenedlaethau Y ac Z yn ffyddlon i'r brand os ydynt wedi cael gwrandawiad da a'u cynnwys er mwyn ennyn emosiynau positif a theyrngarwch.
Awdur: Dr Wayne Griffiths MBE