
Mae Cenedlaeth Y ac Z yn unigryw.
Maent yn gwybod yn union beth yw eu anghenion a sut mae cyfathrebu hyn i eraill yn sydyn a ddiffwdan.
Cenhedlaethau Unigryw.
Mae cenhedlaeth Z yn grŵp o bobl sy'n cael eu adnabod fel defnyddwyr brwd o’r ryngrwyd. Mae'n rhan o'u DNA: yn rhan o’u cartrefi, eu haddysg a'u ffordd o gymdeithasu. Ac os yw Generation Y yn cael anhawster dod o hyd i swydd, mae'r sefyllfa ar gyfer ôl-filflwydd yn waeth byth.
Mwy am bobl ifanc cenhedlaeth Y ac Z.
Mae gwerthoedd cenedlaethau'r dyfodol eisoes wedi cael eu sefydlu trwy ddylanwadau a dewisiadau pwysig hyd at gyfnod eu llencyndod. Nid jyst ceisio deall pobl ifanc yw’r nod, mae’n ymwneud â cheisio deall ein dyfodol. Nid yw meddylfryd y cenedlaethau hyn yn mynd i newid unwaith y cânt eu gosod, ac ni fydd troi yn ôl er mwyn dilyn sefydliadau a chwmnïau cymdeithasol neu'r rhai sy'n ceisio addasu eu brand i rhyngweithio.
Dylanwad cymdeithasol.
Mae pwerau dylanwad cymdeithasol yn ddiymwad ac mae'n rhaid i sefydliadau sydd am ddylanwadu ar y cenedlaethau yma fuddsoddi mewn ceisio cysylltu gyda nhw, hyd yn oed gyda’r unigolyn yn bersonol. Mae'r cenedlaethau yma yn 'savvy' iawn yn dechnolegol ac yn cynrychioli’r grŵp mwyaf yn hanes sy’n cysylltu â'i gilydd yn gyson a gwneir hyn ar nifer fawr o wahanol dechnolegau a meddalwedd, ac yn buddsoddi llawer o’u hamser yn gwneud hyn.
Y cyfeiriad newydd yw i ni wahodd pobl ifanc i ddeialog o'r hyn y maent yn cyflawni a bwriadu ei gyflawni yn y dyfodol er mwyn creu cysylltiadau llwyddiannus gan beidio ystyried unrhyw statws cymdeithasol wrth wneud hynny. Mae gwerthoedd ac egwyddorion yn feincnod pwysig iddynt ac fe fydd angen i unrhyw sefydliad sydd am eu cyrraedd fod yn driw i’w ‘brand’; bydd ymlid ar ôl tueddiadau poblogaidd yn cael eu darganfod yn gyflym ac yn debygol o gael eu hanwybyddu. Mae cyflwr y byd, cadwraeth a'r amgylchedd i gyd yn bwysig i bobl ifanc ac maent am eu newid i’r gorau, er budd dynolryw.
Mae hunanaddoliad yn adlewyrchiad o'u hunaniaeth wrth i ‘selfies’ a thwtio ar eu delwedd personol barhau yn rhan reolaidd o'u diwrnod. Maent yn optimistaidd ac yn uniaethu’n fwy â phrofiadau na materoliaeth ac mae bod yn onest ac yn ddibynadwy yn hanfodol os am unrhyw ryngweithio ystyrlon. Mae pobl ifanc yn crefu am agenda pur a dilys a bydd tryloywder yn caniatáu i hyn ddigwydd. Ar y llaw arall fe fydd yn hawdd iddynt ddarganfod amheuon ac fe fydd unrhyw arwydd o ystumio neu ymdrechion i guddio’r gwir yn niweidio ein perthynas.
Rhannu gwerthoedd
Fe fydd y bobl ifanc yn unioni eu hunain gyda sefydliadau sy'n rhannu eu gwerthoedd a bydd sefydliadau sy'n dangos eu bod yn elwa trwy farchnata twyllodrus yn cael ei gwthio i’r cyrion. Bydd y rhai sy'n cynnig gwerth, hirhoedledd, gwydnwch a chyfrifoldeb corfforaethol yn ennill ei parch. Ni fydd anghyseinedd rhwng disgwyliadau a phrofiad a’r brand yn cael ei oddef gan eu bod yn deall gwerth y diweddebau rhythmig mewn partneriaethau llwyddiannus.
Mae esblygu yn golygu newid ond bydd rhaid i sefydliadau gadw'n driw i’w hachos. Bydd angen iddynt gyrraedd eu cynulleidfa lle bynnag y maent, ond bydd unrhyw duedd amherthnasol mewn marchnata er mwyn denu sylw yn wrthgynhyrchiol. Mae pobl ifanc wedi datblygu sinigiaeth o ddulliau o'r fath a byddant yn teimlo eu bod wedi’u camarwain a throi i ffwrdd.
Mae’r bobl ifanc yn debygol iawn o groesawu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol newydd, ac felly yn genhedlaeth haws i estyn allan atynt. Maent yn genhedlaeth sydd yn cysylltu mwyaf a'i gilydd mewn modd digidol ac yn rhannu eu profiadau naill ai'n dda neu'n ddrwg yn gyflym gyda’u cydraddolion. Cofiwch fod gan y bobl ifanc hyd at ddau gant o 'ffrindiau' ar lwyfannau cymdeithasol ac ar gyfartaledd ac yn gallu 'rhannu' eu sylwadau wrth wasgu botwm yn unig.
Felly, mae'n rhaid i sefydliadau fod yn onest, yn dryloyw ac yn ddibynadwy ac yn cyrraedd pobl ifanc gyda chyfryngau sy’n tracio tueddiadau mewn modd sensitif, sy’n rhoi boddhad ar unwaith sydd yn ddibynadwy ac yn cysoni ei hun gyda’u cydwybod gymdeithasol.
Awdur: Dr Wayne Griffiths MBE